Yn gyffredinol,
croesawn y Bil a’i ddarpariaethau’n fawr; credwn fod
potensial gwirioneddol yma i wella’r gyfundrefn ar gyfer
plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol o bob math,
a’u teuluoedd.
Canolbwyntiwn yma
ar ein prif bryderon, a’r meysydd y credwn y dylai’r
Pwyllgor ymchwilio iddynt, a chodi gyda’r
Llywodraeth.
Gwyddom nad
yw’r Cod ADY drafft yn rhan swyddogol o’r ymgynghoriad;
fodd bynnag, gan ei fod yn ymhelaethu ar fwriadau’r
Llywodraeth, rydym yn cynnwys sylwadau am y Cod yn ogystal ag am y
Bil drafft ei hun.
1)
Lefel y
cyfrifoldeb ar ysgolion
Yn
sgil dileu Datganiadau, mae’n ymddangos bod cryn dipyn o
gyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo o Awdurdodau Lleol i ysgolion
unigol, o ran gwneud penderfyniadau (determinations) ac o
ran llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol.
Mae
cyfrifoldeb sylweddol gan ysgolion ar hyn o bryd, ond o leiaf yn yr
achosion hynny ble mae gan blentyn datganiad, mae’n glir
mai’r Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am y
ddarpariaeth.
Dan y
drefn newydd, mae’n bosib y bydd y trothwy ar gyfer pryd fydd
y cyfrifoldeb yn pasio o lefel ysgol i lefel Awdurdod Lleol yn uwch
– sef dim ond pan fydd (a) penderfynu ar y mater y tu hwnt i
allu’r ysgol (b) anghenion dysgu ychwanegol y plentyn
neu’r person ifanc yn galw am ddarpariaeth na fyddai’n
rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau.
Os
yw’r dadansoddiad hwn yn gywir, mae angen cydnabod hynny, a
chynllunio ar gyfer y sgil-effeithiau yn arbennig felly yn
nhermau:
·
neilltuo adnoddau
cyllidebol digonol
·
sicrhau lefelau
staffio digonol
·
darparu lefel
priodol ac amserol o ran hyfforddiant (i gyrff llywodraethu,
arweinwyr ysgol, cydlynwyr ADY, athrawon a chynorthwywyr
dysgu)
·
sicrhau bod cyngor
arbenigol amserol ar gael i ysgolion
Mae’r straen
ar ysgolion bach, ble mae lefelau staffio’n isel iawn –
ond eto ble mae’r ganran o blant ag ADY yn gallu bod yn uchel
- yn debygol o fod yn sylweddol iawn.
Nid
yw’r rhain yn faterion y disgwylid eu gweld ar wyneb y Mesur,
ond byddem yn disgwyl gweld cyfeiriadau yn y Cod, ac o bosib yn y
Memorandwm Esboniadol.
2)
Lefel y
cyfrifoldeb a’r llwyth gwaith i’r Cydlynydd
ADY
Croesawn y ffaith
bod disgrifiad o rôl a chyfrifoldebau’r Cydlynydd
yn y Cod drafft, a chytunwn yn llwyr y dylai’r Cydlynydd fod
yn aelod o’r Uwch Dîm Rheoli.
Mae’n edrych
yn glir o ddarllen y disgrifiad o’r rôl a’r
cyfrifoldebau mai swydd llawn amser yw hon. Anodd iawn yw ceisio
dychmygu ymgymryd â dyletswyddau o’r fath ochr yn ochr
ag amserlen dysgu a hynny yn sgil y llwyth gwaith sylweddol iawn
(gan gynnwys materion rheolaethol), y lefel o arbenigedd sydd ei
angen, a’r angen am hyblygrwydd o ran amser i allu cwrdd ag
amrywiaeth o randdeiliaid yn ystod y diwrnod gwaith. Credwn y dylid
datgan hynny’n glir yn y Cod.
Yn yr
achosion hynny ble nad yw’n ymarferol i apwyntio un person
llawn amser, er enghraifft, mewn ysgolion bach, credwn y dylid
nodi’r posibilrwydd o benodi Cydlynydd ADY llawn amser ar
gyfer clwstwr o ysgolion. Mae cymaint o ysgolion bach yn system
addysg Cymru, ni chredwn ei fod yn briodol i’r Cod aros yn
fud ar y mater.
Mae’n
gwestiwn gennym a yw geiriad y Bil Drafft yn caniatáu
cyd-benodi o’r fath am fod Adran 46(2) yn dweud bod yn rhaid
i ysgol neu Goleg Addysg Bellach ‘ddynodi aelod
o’i staff’ (‘must designate a
member of its staff’) fel Cydlynydd ADY (fy
mhwyslais i).
3)
Anghenion
Hyfforddiant a Chymwysterau
Yn
ychwanegol at yr angen am hyfforddiant ymhlith staff presennol
ysgolion, Colegau Addysg Bellach ac Awdurdodau Lleol, bydd angen
cynllunio ar gyfer cynyddu’r ymwybyddiaeth a’r
ddealltwriaeth o faterion ADY ymhlith y gweithlu dysgu cyfan. Bydd
angen ystyried newidiadau i Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (o
bosib yn rhan o ddiwygiadau Addysgu Athrawon Yfory/Yr Athro John
Furlong), modiwl o fewn y Cwrs Meistr mewn Ymarfer Addysgol, ac
elfennau yng nghyrsiau hyfforddiant Cynorthwywyr Dysgu.
4)
Y
Gymraeg
Mae
UCAC - a nifer o fudiadau eraill sy’n cynrychioli miloedd o
unigolion rhyngom ni - wedi codi mater y Gymraeg ym mhob
ymgynghoriad ar y mater hwn dros flynyddoedd bellach, ac nid ydym
wedi gweld unrhyw welliant o un drafft i’r nesaf, er
i’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg nodi yr
‘ystyriwyd pob ymateb a ddaeth i law yn sgil ymgynghoriadau
blaenorol.’
Nid
yw’r dogfennau yn cydnabod bod problemau systemig o ran
sicrhau darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn y Gymraeg. Nid
ydynt ychwaith yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod cymaint â
phosib o’r prosesau yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol
â dewis iaith plant, pobl ifanc a/neu rieni. Nid ydynt felly
yn cynnig unrhyw ffordd o fynd i’r afael â’r
anawsterau a’r gwendidau hyn.
Cred UCAC yn gryf y dylai bod hawl gan unrhyw blentyn, person ifanc
a'u teuluoedd i dderbyn y ddarpariaeth a'r gwasanaeth priodol drwy
eu dewis iaith - yn Gymraeg neu'n Saesneg. Gan fod y Bil yn ymdrin
â phlant o’u geni hyd at bobl 25 oed, mae'r ddadl yn
gryfach eto mewn perthynas â phlant o deuluoedd Cymraeg eu
hiaith nad ydynt eto wedi dod i gysylltiad sylweddol â'r iaith
Saesneg, ac sydd i bob pwrpas yn uniaith Gymraeg. Byddai unrhyw
asesiad o blentyn uniaith, neu unrhyw ddarpariaeth ar ei gyfer yn
gorfod bod yn y Gymraeg i fod yn ystyrlon. Ni chyfeirir at y
materion hyn o gwbl yn y Bil nac yn y Cod.
Cawsom
siom o’r mwyaf i weld na roddwyd sylw teilwng i faterion
ieithyddol o ran sgiliau'r gweithlu yn yr ‘Asesiad o ofynion
datblygu’r gweithlu anghenion addysgol arbennig’ a
gynhaliwyd yn ddiweddar gan yr Uned Pobl a Gwaith ar ran
Llywodraeth Cymru.
Dywed
y Memorandwm Esboniadol (paragraff 7.255) bod cynigion y Bil drafft
yn ‘cefnogi’ strategaeth ‘Iaith Fyw: Iaith
Byw’ a’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, a’u
bod yn ‘ategu gofynion Cynllun Strategol y Gymraeg mewn
Addysg’. Ymhellach, ym mharagraff 7.256, dywed ‘Mae ein
cynigion yn cefnogi'r camau i sicrhau darpariaeth Gymraeg. Bydd y
Cod yn rhoi gwybodaeth bellach ynghylch darpariaeth Gymraeg.’
Nid yw’n glir i ni sut mae’r cynigion yn y Bil Drafft
yn ‘cefnogi’ nac yn ‘ategu’
darpariaethau’r Strategaethau, gan nad yw unwaith yn crybwyll
y Gymraeg. Ac nid yw’r Cod yn ‘rhoi gwybodaeth bellach
ynghylch darpariaeth Gymraeg.’ Mae’r Asesiad o’r
Effaith ar y Gymraeg yn cynnwys rhestr o bwyntiau y
‘mae’n debygol y bydd y Cod drafft yn cynnwys’
mewn perthynas â’r Gymraeg, ond ar y cyfan nid
yw’r pwyntiau hyn (y datganiadau o egwyddor) yn ymddangos yn
y fersiwn drafft o’r Cod a gyhoeddwyd ochr yn ochr
â’r ymgynghoriad ar y Bil. I ble y diflannodd y
pwyntiau?
Teimlwn mai
gwendid yr Asesiad Effaith yw ei fod yn canolbwyntio ar y ffaith y
bydd y cynigion deddfwriaethol yn debygol o gael effaith gadarnhaol
ar ddysgwyr ag ADY yn gyffredinol, gan gynnwys y rheiny
sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ond heb fanylu ar natur
yr effaith ar y ddarpariaeth Gymraeg yn benodol.
Mae’r
cyfeiriad ym mharagraff 14 o’r Cod at Safonau’r Gymraeg
yn gyfan gwbl annigonol. Er bod Awdurdodau Lleol yn dod dan gwmpas
y Safonau, nid yw’r safonau’n gyson o un Awdurdod
i’r llall (h.y. mae hysbysiad cydymffurfio yn pennu pa
safonau sy’n
benodol gymwys i
bob corff), ac felly ni fyddant yn creu darpariaeth gyson ledled
Cymru o ran y gyfundrefn ADY. Yn bwysicach byth, nid yw ysgolion yn
ddarostyngedig i’r Safonau – na Cholegau Addysg Bellach
ychwaith, hyd y gwyddom ni.
Nid
ydym o’r farn felly bod y Llywodraeth yn gwneud digon i osgoi
neu leihau’r risg o wahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg
sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Dyma rai enghreifftiau o fannau y mae UCAC yn galw am sylw penodol
i’r Gymraeg ar wyneb y Bil, neu yn y Cod:
·
Pennod 2 y
Cod: dylai’r
hawl i gael darpariaeth Cymraeg ac ymdrin â’r prosesau
drwy gyfrwng y Gymraeg gael ei nodi yn yr adran Egwyddorion; dylai
bod cyfeiriadau yn y cyd-destun hwn at Gonfensiwn y Cenhedloedd
Unedig ar Hawliau’r Plentyn (gofynion ieithyddol), Mesur
Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), Strategaeth Addysg Cyfrwng
Cymraeg Llywodraeth Cymru, a Iaith Fyw: Iaith Byw (Strategaeth
Iaith Llywodraeth Cymru)
·
Pennod 4 y Cod:
Cynnwys a chefnogi plant, eu rhieni a phobl ifanc:
mae’r bennod
hon yn ymdrin â dyletswyddau i annog cyfranogiad plant, eu
rhieni a phobl ifanc yn y broses, a chamau ymarferol y dylid eu
cymryd i hwyluso hynny. Fodd bynnag, ni sonnir unwaith am
bwysigrwydd parchu dewis iaith y plant a’u rhieni, a phobl
ifanc yn y broses hon.
·
Pennod 5 y
Cod (mewn perthynas ag
Adran 7 y Bil: Cyngor a Gwybodaeth): Teimlwn yn gryf iawn y dylid
nodi’n ddiamwys bod disgwyl i’r wybodaeth a chyngor y
cyfeirir atynt fod ar gael yn y Gymraeg – boed ar bapur, yn
electronaidd neu ar lafar. Dylai’r gofyniad rhwymo nid yn
unig yr Awdurdodau Lleol, ond unrhyw ddarparwyr allanol sy’n
ymgymryd â’r gwaith ar ran yr Awdurdodau Lleol. Os oes
cytundeb lefel gwasanaeth, disgwylir i ddarpariaeth ddwyieithog fod
yn amod o’r cytundeb.
·
Pennod 10 y Cod:
Cynnwys Gorfodol y Cynlluniau Datblygu Unigol:
Nodir
‘the language spoken at home by the child or young
person’ fel un o’r darnau o wybodaeth sy’n
ofynnol; awgrymwn y dylid addasu hynny i nodi
‘languages’ yn y lluosog, gan mai dyma’r
realiti i gyfran helaeth o gartrefi Cymru. Ond yn bwysicach na
hynny, nid oes unrhyw sôn yma am (a) cyfrwng iaith addysg y
plentyn/person ifanc (b) ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg yr
hoffai’r plentyn/person ifanc a’i rieni ymdrin
â’r broses ADY. Mae hyn yn fwlch amlwg a
phwysig.
·
Pennod 11 y Cod:
Canllaw ar gynnwys y Cynlluniau Datblygu Unigol:
fel
uchod, mae diffyg cyfeiriadau at arferion a dewisiadau ieithyddol
yn nodweddi’r bennod hon. Er y sonnir am
‘communication and/or access requirements relevant to the
child, young person or their families’, rydym yn gadarn
o’r farn y dylid cyfeirio’n benodol at y Gymraeg, ac at
yr angen i gymryd i ystyriaeth a pharchu dewisiadau ieithyddol yr
unigolion dan sylw.
·
Pennod 14 y Cod:
Trafnidiaeth: mi ddylai
paragraff 355 nodi fod y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn
gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ‘hybu mynediad i
addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg.’
·
Pennod 15,
paragraff 373 y Cod (mewn perthynas ag
Adran 26 y Bil: Dyletswydd i dderbyn plant i sefydliadau a
enwir): dylai cyfrwng iaith y ddarpariaeth fod yn un
o’r ystyriaethau o ran a yw’r addysg a ddarperir yn
addas.
·
Penodau 20 a 21 y
Cod: Dylid
cyfeirio’n benodol at yr hawl i gael ymwneud â phrosesau
datrys anghydfodau ac apeliadau at y Tribiwnlys drwy gyfrwng y
Gymraeg. Mae cyfeiriadau at ‘suitable format’ a
‘plain language’, ond dim un cyfeiriad at
gyfrwng iaith y prosesau.
·
Adran 31 y Bil:
Diwygio’r gofynion cofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol yng
Nghymru: dylid nodi yn y
gofrestr drwy gyfrwng pa ieithoedd y cynigir y
ddarpariaeth.
Credwn
y dylai’r Bil ei hun gynnwys datganiad diamwys sy’n
nodi’r disgwyliadau o ran darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg
– o ran y ddarpariaeth addysgol yn ogystal â’r
gallu i ymwneud â’r broses gyfan.
Dylai’r Cod
fynd i fanylder ynghylch y dyletswyddau, y disgwyliadau a’r
ymrwymiadau ar lefel ymarferol.
5)
Sicrhau
ansawdd Beth yw’r
trefniadau a phwy sy’n gyfrifol am sicrhau ansawdd y prosesau
a’r ddarpariaeth? Ai’r prosesau apêl a’r
Tribiwnlys yw’r prif fecanweithiau? Bydd rôl gan Estyn o
ran ysgolion, Colegau Addysg Bellach (ac Awdurdodau Lleol?), ond
beth am randdeiliaid eraill megis Byrddau Iechyd?
Mae
Adran 50 y Bil, a pharagraffau 236-238 o’r Cod yn ymwneud
â ‘Hawl awdurdod lleol i gael mynediad i fangreoedd
ysgolion a sefydliadau eraill.’ Cymrwn mai at ddibenion
sicrhau ansawdd y mae’r darpariaethau hyn yn cael eu gwneud.
Teimlwn y dylid ymhelaethu ar yr hyn a gynhwysir yn y Cod am y
mater hwn o ran y ‘specific circumstances’ pan
ganiateir mynediad, ac at ba bwrpasau yn union. Er enghraifft, a yw
mynediad o’r fath yn cynnwys yr hawl i arsylwi
gwersi?
|